Nadolig Taliesin

Rhan 2

Morris

“Dwi’n cofio’r noson – Rhagfyr 26ain 1976. Do’dd dim syniad gyda fi ar y pryd am y patrwm ‘hunanladdiadau’ ‘ma. Ro’n i’n gweithio’r shifft hwyr, ac wedi ca’l galwad i dafarn Yr Hen Lew Du ar Stryd y Bont, ar ben ucha’r dref. Roedd cwyn wedi ei wneud am ddyn yno wedi meddwi ac yn achosi trafferth, ac wrth i ni gyrraedd dwi’n cofio goleuadau’r goeden Nadolig yn disgleirio yn ffenest y dafarn, ac wedyn dyma’r drws yn agor a dyn ifanc mewn côt hir yn cael ei daflu i’r stryd.

“Dyma chi. Ewch ag e, a halwch e nôl i America,” dywedodd y landlord cyn cau’r drws yn glep.

Wnes i ddim ei adnabod e’n syth, ond roedd fy mhartner ar y pryd, dyn o’r enw Elgan Edwards, yn dipyn o ffan o’r ffilmiau, a dyma fe’n sibrwd, “Blydi hel – Marc Van Baas yw hwn’na!”

O’dd na straeon ‘di bod ar led ers tipyn fod gan Van Baas ochr greulon, dreisiol, yn enwedig pan oedd e wedi meddwi, ac ro’dd hynny’n amlwg y noson honno. Cyn gynted ag y gwelodd e ni ro’dd e’n ddyrne i gyd, yn dod amdanon ni ac yn rhegi. Wrth gwrs, nôl yn y saithdegau doedd dim sôn am police brutality fel sy gyda ni nawr, felly dyma fi a Elgan yn tynnu’n pastwne ac yn rhoi cwpwl o glatshys iddo fe nes ei fod e ar y llawr, yna’n ei daflu i gefn y car a mynd â fe am orsaf yr heddlu. Ar y pryd ro’dd yr orsaf ar y Prom, yn edrych mas dros y môr, ond ro’dd y ffordd ar gau gan eu bod nhw’n dal i ga’l trefn ar bopeth ar ôl i Carol Pryce neidio o ffenest ei fflat. Roedd lot o sôn am hynna wedi bod ar radio’r heddlu ers cwpwl o orie.

Wrth i ni droi a mynd y ffordd hirach i’r orsaf dyma fi’n troi at Elgan ac yn dweud rhywbeth fel, “Druan â hi a’i theulu hi; lladd ei hunan fel’na, dros y Nadolig hefyd.” Atebodd Elgan,“Ie, ma ‘ngwraig i’n nabod ei mam hi, ac ma gyda hi efaill hefyd. Digon i dorri dy galon di.” A dyna pryd y gwnes i glywed Van Baas yn rhoi chwerthiniad bach yn sedd gefn y car, a sibrwd “Ma’i hefaill hi’n well hebddi.” Wnaeth Elgan ddim clywed, a phan wnes i ofyn i Van Baas beth ddwedodd e gwrthododd e ateb, dim ond rhyw gilwenu.

Beth bynnag, fe gyrhaeddodd cyfreithiwr i’w gael e mas o’r ddalfa o fewn cwpwl o orie. Talodd e ddirwy, ca’l rhybudd swyddogol, a’r diwrnod wedyn ffwrdd â fe nôl i America. Ond fe arhosodd y geirie yna yn fy nghof i, a dyma fi’n dechre edrych i mewn i achos Carol Pryce. Wedyn, un diwrnod dechreues i feddwl am edrych i mewn i hunanladdiadau yn y blynyddoedd eraill pan oedd Van Baas yn Aberystwyth, a dyna pryd y des i o hyd i achosion Stanley Ingram a Caradog Griffiths, a chysylltiad yr efeilliaid. Ond er gwaetha pob ymdrech wnes i ddim llwyddo cael unrhyw un yn yr heddlu i gymryd y peth o ddifri.

Y Nadolig hwnnw, Nadolig 1976, o’dd y tro ola y daeth Van Baas i Gymru. Yn ôl y sôn dechreuodd y stiwdios yn Hollywood gefnu arno fe yn fuan wedyn gan ei fod e’n llai a llai dibynadwy, ac yn dangos tymer uffernol ar y set. Fe symudodd y byd mla’n, ac o fewn cwpwl o flynyddoedd doedd dim mwy o sôn am Marc Van Baas.

Yn 1980 roedd Mona, ei fam, yn dioddef o gancr, ac yn unol â’i dymuniad ola fe drefnodd e iddi hedfan allan i America i’w weld e. A thra roedd hi yno fe laddodd Marc Van Baas ei hun, drwy saethu ei hun yn ei frest. Yr euogrwydd ‘di dal lan â fe ddwedwn i. A gwynt teg ar ei ôl e.

Taliesin

Pan fod Taid yn siarad am ei ddyddiau yn yr heddlu mae’n ddyn gwahanol. Mae golau yn gloywi ei lygaid, ac mae’r atgofion yn llifo’n glir. Mae bron fel petai wedi anghofio mod i yno, ac yn ei feddwl mae’n sefyll unwaith eto yng ngorsaf yr heddlu ar y Prom.

Dwi’n clirio fy ngwddf, ac mae Taid yn edrych arna i.

“Ond Taid,” dwi’n dechrau, yn ansicr a ddylwn i ei herio fe.

“Dydych chi ddim yn meddwl falle fod y cwbl braidd yn … anghyson?”

Mae’n troi ei ben yn gyflym ac yn syllu’n galed arna i.

“Be ti’n feddwl, anghyson?”

“Wel … am un peth, sut fydde Marc Van Baas yn gallu dod o hyd i’r efeilliaid yma oedd yn byw ar eu pen eu hunain, achos dim ond am gwpwl o ddyddie roedd e yn y wlad? A hyd yn oed petai e’n dod o hyd iddyn nhw, mi oedd e’n ddyn enwog – fydde neb wedi sylwi arno fe’n cerdded o gwmpas i’r llefydd yma? Ac hefyd, a fydde fe’n debygol o fynd i’r dafarn a chreu stŵr fel gwnaeth e, pan oedd e newydd ladd Carol Pryce?”

Mae Taid yn dawel am dipyn, gan edrych yn ddwys arna i.

“Gwranda,Taliesin,” meddai o’r diwedd. “Mae’n rhaid i ti ddysgu dilyn dy reddf pan wyt ti’n blismon. A chreda di fi, mae yna ryw gysylltiad rhwng Van Baas a’r marwolaethe ‘ma. Ond os wyt ti’n meddwl dy fod di’n gwbod yn well, ti a dy holl addysg, yna jyst rho’r cwbwl ‘ma gadw a gad i fi fwynhau gweddill y Nadolig.”

Dwi’n eistedd yn llonydd am amser hir, yn siomedig mod i wedi digio Taid. Yna, yn araf, dwi’n codi ac yn dechrau tacluso’r pentwr adroddiadau sy ar y bwrdd. Wrth i mi eu codi mae llun yn llithro allan o un o’r ffeiliau ac yn disgyn ar y llawr. Dwi’n ei godi ac yn edrych arno, ac mae’n codi cyfog arna i’n syth. Llun lliw o gorff marw, ac mae twll mawr gwaedlyd yn ei frest. Dwi ar fin ei roi nôl yn y ffeil â dwylo crynedig, ond yna dwi’n oedi.

“Taid,” dwi’n gofyn. “Beth yw hwn?”

Mae’n cymryd cipolwg ar y llun.

“Dyna gorff Marc Van Baas ar ôl iddo fe ‘i ladd ‘i hun. Cysylltes i â rhywun yn yr adran dditectifs mas yn Califfornia ac fe anfonodd e fe draw.” Mae’n edrych arna i ac yn gwenu. “Ti ‘di mynd yn welw, achan. Bydd ishe i ti fod yn ddigon caled i weld pethe fel’na pan wyt ti’n blismon, creda di fi.”

Dwi’n craffu ar y llun yn ofalus.

“Ond Taid – dyw hyn ddim yn iawn…”


Mae rhan olaf Nadolig Taliesin ar gael i’w ddarllen fan hyn
Ydych chi’n mwynhau Nadolig Taliesin?

Fe allwch chi ddarllen mwy am Ditectif Taliesin MacLeavy y Nadolig yma yn ei ddwy nofel, Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial – ar gael ar wefannau Y Lolfa, Gwales ac yn eich siop lyfrau leol.

Ar Drywydd Llofrudd (2018)
Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae’n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy’n boblogaidd tu hwnt ar hyn o bryd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd.
Mwy o wybodaeth…
Ar Lwybr Dial (2020)

Llygad am lygad, a dant am ddant? Ydy pobol sydd wedi tramgwyddo yn haeddu cael eu cosbi? Mae yna un llofrudd sy’n credu hynny ac mae yna gyrff yn cael eu canfod mewn amgylchiadau rhyfedd a gwaedlyd. A all Taliesin MacLeavy ei ddal cyn i fwy o bobol farw?
Mwy o wybodaeth…



“Hollol wych. Nes i fethu roi o lawr! A diweddglo OMB o annisgwyl… Bravo Alun Davies, mwy plis!”Manon Steffan Ros

“Nofel sy’ gwerth colli cwsg drosti”Richard Harrington

“Wedi mwynhau hwn! Nofel dditectif ddifyr wedi’i gosod yn Aber, Llanelli a Llanbed. Gobeithio darllen mwy am Taliesin – chwip o enw i dditectif”Bethan Gwanas

“Llais newydd hyderus ym myd sgrifennu ditectif Cymraeg”Jon Gower

“Newydd orffan darllen @trywyddllofrudd . Gwych. Un o’r nofela ditectif gora i mi ei darllen yn Gymraeg ers sbel. ”Emyr Gruffudd

“Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dwi’n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf. ”Tweli Griffiths