Nadolig Taliesin

Rhan 3

Morris

Dwi’n estyn am y llun o law Taliesin, ac yn edrych arno fe’n ofalus.

“Be ti’n feddwl, ddim yn iawn?” dwi’n gofyn o’r diwedd.

“Wel, edrychwch – mae e’n gwisgo crys.”

Dwi’n edrych ar y llun eto. Mae Van Baas yn gwisgo crys melyn patrymog, sydd wedi ei orchuddio gan waed.

“Odi. Be sy’n bod ar ‘ny?”

“Wel, mewn achos o hunanladdiad trwy saethu fel hyn, mae’r person bron o hyd yn rhoi’r gwn yn erbyn eu croen – yn erbyn eu talcen neu eu gên fel arfer, ond os ydyn nhw’n saethu eu hunain yn y frest mi fyddan nhw’n agor botymau eu crys gynta. Mae crys Marc Van Baas yn dal wedi ei fotymu.” Mae Taliesin yn oedi. “Fe wnaethon ni ddysgu am hynna yn y coleg.”

Dwi’n tynnu fy sbectol ac yn rhwbio fy llygaid.

“Be ti’n ddweud ‘te?” dwi’n gofyn.

“Wel, os oes yna bosibilrwydd fod y tri hunanladdiad yn Aberystwyth wedi eu ffugio, beth os ydi hwn wedi ei ffugio hefyd?” ma Taliesin yn ateb. “Meddyliwch – fe alle fe fod wedi lladd ei hun unrhyw bryd, felly pam aros nes bod ei fam yn dod i’w weld am y tro cynta ers blynyddoedd? Onibai nad hunanladdiad oedd hyn wedi’r cwbl?”

Dwi’n pendroni am dipyn.

“Ond os felly – pwy laddodd Van Baas?” dwi’n gofyn.

Mae Taliesin yn eistedd yn dawel am dipyn, a dwi’n gadael iddo gael amser i feddwl. Mae’r achos yma wedi bod yn troi yn fy mhen ers degawdau, ond wnes i erioed ystyried unrhyw beth fel hyn.

“Wel, pwy oedd yn Aberystwyth pan oedd Marc yma, ac hefyd yn America pan fuodd e farw?” mae’n gofyn o’r diwedd.

“Dim ond ei fam – a’i frawd, Sam, wrth gwrs. O’dd yr hen fenyw ddim yn mynd i unman heb Sam,” dwi’n ateb. “Er nad oedd hi’n ei drin e’n garedig, nac yn gwerthfawrogi ei fod e’n treulio’i fywyd yn gofalu amdani. Marc o’dd popeth iddi hi; dim ond gwas bach o’dd Sam. A do’dd Marc ddim yn ei drin e damed gwell chwaith, o be glywes i.”

“Beth ddigwyddodd i Sam a’i fam ar ôl i Marc farw?”

“Wel,” dwi’n dweud, gan geisio cofio’r manylion. “Buodd y fam farw yn eitha buan ar ôl dod nôl i Gymru. Doedd dim amheus am hynny, achos mi o’dd hi’n diodde o gancr. Buodd hi farw yn yr ysbyty. O’dd Sam o gwmpas am gwpwl o fisoedd, ac wedyn fe symudodd e bant.”

Mae Taliesin yn tynnu ei ffôn o’i boced. Ma’r bobol ifanc ‘ma’n styc i’r blydi pethe trwy’r amser y dyddie ‘ma.

“Be ti’n neud â hwnna?” dwi’n gofyn yn swta.

“Edrych i weld os oes unrhyw sôn am hanes Sam Van Baas ar y we,” mae’n ateb. Does gen i ddim syniad be ma hynny’n ei feddwl, a dwi’n gwylio Taliesin yn ddiamynedd.

“Wel?” dwi’n gofyn ar ôl cymryd sawl llymaid o chwisgi. Mae’r ffilm ar y teledu wedi gorffen, ac mae rhaglen gwis wedi dechrau erbyn hyn.

“Mae yna erthygl amdano fe fan hyn. Cyfweliad yw e, ar wefan adolygu llyfrau. Mae’n rhaid fod Sam wedi troi yn dipyn o awdur. Fe symudodd i Awstralia i fyw yn yr wythdegau cynnar, yna aeth ymlaen i Wlad Thai yn 2002. Fe newidiodd ei enw i Lleu Baason – Lleu oedd ei enw canol yn ôl hwn – ac fe ysgrifennodd dair nofel.”

Mae Taliesin yn codi ei lygaid o’r ffôn ac yn syllu arna i.

“Be sy?” dwi’n gofyn.

“Mae un o’r nofelau yma’n ymwneud â dau efaill sy’n brwydro dros ryw ferch – y ddau wedi syrthio mewn cariad â’r un ferch. Mae yna gyfweliad gyda Sam am y llyfr; darllenwch y dyfyniad fan hyn.”

Mae Taliesin yn estyn ei ffôn draw i mi, a dwi’n ei ddal yn agos i ddarllen yr ysgrifen fân.

Does dim gwaeth na bod yn efaill, gan wybod eich bod chi wedi cael yn union yr un cyfleoedd, yr un fagwraeth, â’ch brawd neu’ch chwaer, ac yna’n eu gweld nhw’n llwyddo a chithau’n cael eich gadael ar ôl. Gweld eich mam yn amlygu cariad tuag atyn nhw, a dim ond dicter a chasineb atoch chi. Clywed eich mam yn gwadu eich bod chi’n efeilliaid hyd yn oed, rhag ofn fod yr wybodaeth yn ddigon i achosi niwed i’w ffefryn. Mae’r cymeriadau yn y nofel yn brwydro dros gariad merch, ond wnes i byth deimlo cariad fy mam hyd yn oed, a’r cwbl oherwydd fy efaill. Na, yr anrheg orau wnes i ei chael erioed oedd pan wnes i beidio bod yn efaill.

Dwi’n troi ac yn edrych ar Taliesin.

“Roedd Marc a Sam yn efeilliaid?” dwi’n gofyn yn syn.

“Dyna mae Sam yn awgrymu fan hyn. Ddim yn efeilliaid unfath, mae’n amlwg, ond roedden nhw’n efeilliaid, er fod Marc a’i fam wedi trio cuddio hynny pan ddaeth Marc yn enwog, a hyd yn oed cyn hynny, efallai.”

“Ond pam?”

Ma Taliesin yn darllen drwy’r erthygl eto cyn ateb.

“Yn ôl Sam roedden nhw’n meddwl cyn lleied ohono fe nes oedden nhw’n credu y byddai ei gydnabod fel efaill yn ddigon i niweidio delwedd a chyfleoedd Marc.” Mae Taliesin yn rhoi ei law at ei dalcen fel petai’n sylweddoli rhywbeth. “Wrth gwrs,” mae’n dweud. “Dwedoch chi fod eu mam nhw’n astudio’r Mabinogi, on’d do? Wel, cofiwch taw enwau canol y ddau ydi Dylan a Lleu.”

Mae Taliesin yn edrych arna i; mae’n amlwg y dylai hynny olygu rhywbeth pwysig i fi.

“Dylan a Lleu yw enwau meibion Arianrhod yn y Mabinogi, sef meibion gafodd eu geni ar yr un diwrnod. Efeilliaid, a dweud y gwir. Ac roedd Arianrhod yn casau ei Lleu hithau hefyd.”

Dwi’n darllen y dyfyniad eto.

“Yr anrheg orau wnes i ei chael erioed oedd pan wnes i beidio bod yn efaill.” Dwi’n troi at Taliesin. “Stanley Ingram, Carol Pryce, Caradog Griffiths … ti ddim yn meddwl taw rhyw fath o anrhegion oedd eu marwolaethau nhw? Bod y llofruddiaethau ‘ma yn anrheg Nadolig oddi wrth Sam Van Baas i’r efeilliaid oedd yn parhau i fyw?”

Mae Taliesin yn llenwi ei fochau ag awyr, yna’n ei chwythu allan yn araf.

“Wel, fe ddioddefodd Sam flynyddoedd o gael ei fychanu gan ei frawd a’i fam, oedd bron yn gwadu ei fod e’n bod. Byddai hynny’n siŵr o gael cryn effaith seicolegol ar rywun. Falle nad oedd gan Sam ddigon o asgwrn cefn i sefyll yn eu herbyn nhw, ond yn lle hynny, fe welodd ei hun ymhob efaill arall. Ceisio eu rhyddhau nhw o’r berthynas uffernol roedd e’i hun yn rhan ohoni oedd e, yn enwedig ar y cyfnodau pan oedd pethau ar eu gwaetha iddo fe …”

“… pan fydde Marc yn dod nôl adref o’i fywyd llwyddiannus yn America – Nadolig ‘72, ‘74 a ‘76,” dwi’n torri ar draws Taliesin a gorffen ei frawddeg. Mae’r twnnel yma wedi bod yn un hir a thywyll, ond ma’r golau’n dod yn gliriach nawr. “A ti’n iawn, fe fydde wedi bod yn anodd i Marc ddod o hyd i’r efeilliaid yma gan taw dim ond am gwpwl o ddyddie o’dd e yn y wlad, ond ro’dd Sam yma drwy’r flwyddyn, ac fe fydde gyda fe ddigon o gyfle.”

Mae Taliesin yn cytuno.

“Ac yna,” mae’n dweud, “flynyddoedd wedyn, pan welodd ei fam bron ar ei gwely angau a’i frawd yn fethiant, rhaid ei fod e wedi cael yr hyder i ymladd yn ôl o’r diwedd.”

Dwi’n eistedd nôl yn fy nghadair, ac mae’r ystafell yn diflannu o fy nghwmpas i. Mae’r cwbwl yn disgyn i’w le.

Mi oedd yna batrwm. Ro’n i’n iawn i ddilyn fy ngreddf wedi’r cwbwl, er nad oedd neb yn fodlon gwrando.

A nawr dwi’n gwybod pwy oedd y llofrudd, ar ôl yr holl flynyddoedd.

O’r diwedd.

Taliesin

Dwi’n troi i ffwrdd wrth weld deigryn yng nghornel llygad Taid, gan wybod na fydde fe eisiau i fi ei weld e’n crio. Dwi’n mwmian rhywbeth am fynd i nôl diod, ac yn codi a mynd i’r gegin lle mae Mam a Nain wedi dechrau paratoi swper.

“Popeth yn iawn, Taliesin?” mae Nain yn gofyn.

“Ydi, iawn,” dwi’n ateb.

Wrth gwrs, roeddwn i’n gwybod cyn cyrraedd yma heddiw taw Sam Van Baas oedd y llofrudd. Roedd Nain, a Mam, a phawb arall yn gwybod hefyd.

Ac roedd Taid yn gwybod, petai e ond yn gallu cofio.

Dyma’r drydedd waith i ni ddatrys yr achos yma. Y tro cyntaf, pan wnaethon ni ei ddatrys go iawn, aeth fy Nhad â’r cwbl i’r heddlu. Addawodd yr adran berthnasol edrych i mewn i’r peth, ond fisoedd wedyn clywson ni nad oedd modd dwyn yr achos ymhellach ar ôl yr holl flynyddoedd oherwydd diffyg tystiolaeth gadarn.

Ond bob Nadolig mae Taid yn dechrau o’r newydd, gan gofio’r holl hanes heblaw am y diwedd, ac rydyn ni’n eistedd i lawr ac yn gweithio trwy’r peth unwaith eto, fi a fe.

“Diolch i ti, Taliesin,” mae Nain yn dweud. “Ti’n gwbod taw gwneud hyn yw’r anrheg Nadolig ore alli di ‘i rhoi iddo fe.”

Mae Taid yn brysio i’r gegin, a’i sbectol ar gadwyn am ei wddf. Mae ei goron bapur wedi llithro i gefn ei ben.

“Gwen, Gwen,” mae’n ebychu, yn llawn egni a bywiogrwydd. “Ni ‘di datrys yr achos – Taliesin a fi. Achos Van Baas … dere, gad i fi ddangos i ti.”

Mae Nain yn cyffwrdd fy mraich i’n ysgafn, yna’n dilyn Taid nôl i’r stafell fyw, i gysgod y goeden Nadolig fawr, ddisglair yn y cornel.

Ydych chi’n mwynhau Nadolig Taliesin?

Fe allwch chi ddarllen mwy am Ditectif Taliesin MacLeavy y Nadolig yma yn ei ddwy nofel, Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial – ar gael ar wefannau Y Lolfa, Gwales ac yn eich siop lyfrau leol.

Ar Drywydd Llofrudd (2018)
Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae’n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy’n boblogaidd tu hwnt ar hyn o bryd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd.
Mwy o wybodaeth…
Ar Lwybr Dial (2020)

Llygad am lygad, a dant am ddant? Ydy pobol sydd wedi tramgwyddo yn haeddu cael eu cosbi? Mae yna un llofrudd sy’n credu hynny ac mae yna gyrff yn cael eu canfod mewn amgylchiadau rhyfedd a gwaedlyd. A all Taliesin MacLeavy ei ddal cyn i fwy o bobol farw?
Mwy o wybodaeth…



“Hollol wych. Nes i fethu roi o lawr! A diweddglo OMB o annisgwyl… Bravo Alun Davies, mwy plis!”Manon Steffan Ros

“Nofel sy’ gwerth colli cwsg drosti”Richard Harrington

“Wedi mwynhau hwn! Nofel dditectif ddifyr wedi’i gosod yn Aber, Llanelli a Llanbed. Gobeithio darllen mwy am Taliesin – chwip o enw i dditectif”Bethan Gwanas

“Llais newydd hyderus ym myd sgrifennu ditectif Cymraeg”Jon Gower

“Newydd orffan darllen @trywyddllofrudd . Gwych. Un o’r nofela ditectif gora i mi ei darllen yn Gymraeg ers sbel. ”Emyr Gruffudd

“Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dwi’n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf. ”Tweli Griffiths