Nadolig Taliesin

Rhan 1

Taliesin

“Pasia’r ffeil ‘na draw, Taliesin. Na, na, nid honna achan … honna. Yr un las ‘na.”

Mae Taid yn pwyntio at gasgliad o ffeiliau mewn cloriau cardfwrdd sydd wedi eu pentyrru drifflith-drafflith ar y bwrdd coffi yng nghanol y stafell. Dwi’n dewis un o dair o ffeiliau glas ar hap ac yn ei hestyn i Taid yn ei gadair freichiau. Mae ei sbectol ar ei drwyn a choron bapur ar ei ben.

“Ie, ‘co ni. Nawrte, dere i ni gael gweld … Duw, ishte lawr ‘nei di Taliesin, ti’n ‘neud i’r lle edrych yn flêr.”

Dwi’n edrych o gwmpas y stafell am stôl y galla i ei thynnu’n nes at Taid. Mae’r ystafell fyw yma yn fach beth bynnag, ond mae’n teimlo’n fwy cyfyng fyth heddiw gyda’r goeden Nadolig yn llenwi un cornel, a phob un brigyn yn gwegian dan bwysau’r holl addurniadau. “Ma dy Nain ‘di mynd dros ben blydi llestri eto Nadolig yma,” bydd Taid yn grwgnach bob blwyddyn pan fyddwn ni’n cyrraedd ar fore dydd San Steffan. Mae’n esgus ei fod e’n casau’r tinsel sy’n gorwedd yn drwch o gwmpas y lle o dan a thros ffrâm pob llun; mae Siôn Corn a’r Iesu yn y preseb yn eistedd y naill ochr a’r llall i’r teledu. Ond does dim amheuaeth fod Taid wir wrth ei fodd gyda’r Nadolig.

Yr un yw’r drefn wedi bod ers i Gwion a fi fod yn blant – Nain a Taid yn dod i’n tŷ ni ddydd Nadolig am ginio, a’r diwrnod wedyn ein tro ni yw hi i fynd atyn nhw. Byddwn ni’n cyrraedd mewn pryd i gael cinio, yna mae Nhad a Gwion yn diflannu am y prynhawn i fynd i wylio tîm rygbi neu bêl-droed y dref yn chwarae. Dydw i byth yn cael gwahoddiad, na chwaith yn dymuno cael un. Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd yn hwyrach mi fydd yna bryd arall gyda’n gilydd heno, er fod pawb yn dal i fod yn llawn ar ôl y cinio. Yn y cyfamser, bydd Mam yn treulio’r prynhawn yn sgwrsio gyda Nain yn y stafell arall tra mod i’n cadw cwmni i Taid.

Mae yna ffilm du a gwyn yn chwarae ar y teledu, ond pan gerddodd Taid i’r stafell â’i freichiau’n llawn yr hen ffeiliau heddlu fe ddiffoddodd e’r sŵn cyn eistedd yn ei gadair esmwyth gyda gwydraid o chwisgi wrth ei ochr. Bu Taid yn blismon am dros ddeugain mlynedd, ac mae enw Morris MacLeavy yn un cyfarwydd yng ngorsaf heddlu Aberystwyth. Mae Nhad yn blismon nawr, ac mae disgwyl i mi ddilyn yn ôl eu traed.

Mae Taid yn disgwyl wrth i mi stryffaglu i symud un o gadeiriau’r bwrdd bwyd a’i gosod ar bwys ei gadair esmwyth, cyn eistedd lawr.

“O’r diwedd. Reit te,” meddai Taid, “os wyt ti’n mynd i fod yn blismon ma’n well i ti ddechre dysgu’r job. A dim dysgu nonsens fel wyt ti’n ‘neud yn y coleg ‘na, ond dysgu’r gwaith go iawn.” Mae’n cymryd llymaid mawr o’r chwisgi, yna’n agor y ffeil sydd ar ei gôl. “Nawrte, beth wyt ti’n gwybod am Marc Dylan Van Baas?”

Dwi’n gwybod yn iawn pwy yw Marc Dylan Van Baas, ond cyn i mi allu ateb mae Taid wedi dechrau rhoi’r cefndir i gyd i mi.

Morris

“O’n i’n blismon am amser hir iawn, Taliesin, a Van Baas o’dd yr un ddraenen yn fy ystlys i – the one that got away, fel maen nhw’n dweud. Un o Aberystwyth oedd Mona Parri, mam Van Baas, yn wreiddiol. Fe wna’th hi gwrdd â’i dad e, Kurt Van Baas, tra oedden nhw’n gweithio yn y brifysgol yn Rhydychen. O Amsterdam o’dd e’n dod.” Dwi’n troi i edrych ar Taliesin, ac mae’n nodio’i ben. “Yn yr Iseldiroedd.” Mae’n nodio’i ben eto. “O’dd hi yn yr adran Gymraeg, neu ieithoedd Celtaidd, neu beth bynnag ma’n nhw’n galw’r adran fyn’na, yn arbenigo yn y stwff hanesyddol ‘na – ti’n gwbod, y Mabinogi a phethe fel’na. Beth bynnag, ga’th Marc ei eni yn 1950, ac erbyn 1955 roedd ei rieni e wedi gwahanu. ‘Sdim lot o wybodaeth i gael am ei blentyndod e, ond o’dd Marc wrth ei fodd yn perfformio, ac fe dyfodd e lan i fod yn dipyn o actor. O’dd hyn ar adeg pan o’dd tipyn o alw am actorion Prydeinig – ddiwedd y chwedegau, adeg ffilmiau fel The Italian Job, ti’n gwbod. Digwydd bod yn y lle iawn ar yr amser iawn, sbo. Fe ddechreuodd e ga’l dipyn o sylw, ac wedyn dyma fe’n ca’l cynnig i symud i Hollywood. Ga’th e ranne mewn cwpwl o ffilmiau llwyddiannus. Sbei o’dd e yn un ffilm os ydw i’n cofio’n iawn, a milwr mewn un arall. Ie wir, am gyfnod o’dd Marc Van Baas yn foi enwog.”

Dwi’n oedi ac yn cymryd llymaid arall o’r chwisgi, ac yn helpu fy hun o’r bocs mawr piws o Quality Street. Mae’r doctor ‘di dweud bod ishe i fi stopo bwyta siocled oherwydd y diabetes, ond ma’n rhaid ca’l tamed o fwynhad adeg y Nadolig.

“Beth bynnag,” dwi’n mynd mla’n wrth dynnu’r papur sgleiniog oddi ar yr Orange Creme, “er ei fod e’n byw yn America, bob yn ail flwyddyn bydde Van Baas yn dod nôl i Aberystwyth adeg y Nadolig i weld ei fam. Ro’dd ei dad wedi diflannu nôl i’r Iseldiroedd erbyn ‘ny, a’i fam wedi dod nôl i fyw yng Nghymru gan bod ei hiechyd hi’n wael. Ro’dd hi’n byw mewn bwthyn y tu fas i Aberystwyth gyda Sam Van Baas, brawd Marc, oedd yn gofalu amdani. Ti’n dilyn mor belled, Taliesin?”

“Ydw, Taid,” mae e’n ateb. Dyw e ddim fel petai e’n talu llawer o sylw, ond dwi’n mynd mla’n beth bynnag.

“Nawr, dyma’r peth. Da’th Van Baas nôl i Aberystwyth adeg y Nadolig yn 1972, 1974 a 1976, dim ond am ychydig ddyddie i weld ei fam. Yna roedd e’n diflannu nôl i America eto. Ac adeg y Nadolig yn 1972, 1974 a 1976, yr union ddyddie ro’dd Van Baas yma, roedd ‘na farwolaeth amheus yn Aberystwyth bob tro. A ti’n gwbod beth o’dd yn eu cysylltu nhw?”

“Nac ydw, Taid,” mae Taliesin yn ateb.

“Wel nac wyt, wrth gwrs nad wyt ti. Yr un peth oedd yn eu cysylltu nhw oedd fod pob un yn un o bâr o efeilliaid.” Dwi’n dawel am eiliad neu ddwy. “Dychmyga hynna Taliesin – colli dy efaill, yr un person yna sydd wedi bod wrth dy ochr di ers y cychwyn, a hynny adeg y Nadolig ar ben popeth. Alli di feddwl am unrhyw beth mwy creulon?”

Mae Taliesin yn crychu ei dalcen cyn ateb.

“Felly chi’n dweud fod y Marc Van Baas yma wedi lladd y tri efaill? Oedd yna ymchwiliad ar y pryd?” mae’n gofyn.

“Wel na, er mod i wedi trio dechre un sawl gwaith. Ro’dd Van Baas wedi bod yn glyfar uffernol ti’n gweld, a ‘di neud i bob achos edrych fel hunanladdiad.”

“A dy’ch chi ddim yn meddwl fod hynny’n wir?” mae Taliesin yn gofyn.

“Nadw. Ond edrych, darllena di drwy’r tri adroddiad yna draw fan’na, y rhai â’r clorie coch. Dyna adroddiade’r tri achos. Dy’n nhw ddim yn hir iawn. Bydd e’n brofiad da i ti, a dwed wrthof fi be ti’n ‘i weld.”

Mae Taliesin yn estyn am y tair ffeil goch ac yn dechrau eu darllen nhw, a dwi’n codi o fy nghadair a mynd i nôl gwydraid arall o ddiod.

Taliesin

Mae’r ffeil gyntaf yn cynnwys achos marwolaeth Stanley Ingram, dyn 81 oed, o Swydd Efrog yn wreiddiol, ond yn byw yn Aberystwyth ers iddo ymddeol. Cyn-filwr oedd Stanley ac roedd yn byw ar ei ben ei hun yn Bow Street. Yn yr adran ‘Teulu agos’ mae manylion ei efaill Simon Ingram, oedd yn byw yn Leeds.

Ar Ragfyr 29ain 1974 daethpwyd o hyd i gorff Stanley yn eistedd wrth y bwrdd yn y gegin, ar ôl i’w gymdogion ddechrau poeni nad oedd neb wedi ei weld ers dyddiau. Roedd yna nodyn byr yn dweud ‘Maddeiwch i mi’ ar y bwrdd gerllaw. Mae’r adroddiad yn fyr fel dwedodd Taid, yn dweud fod Stanley Ingram wedi marw ar ôl cymryd gorddos o dabledi cysgu, a bod y patholegydd yn amau ei fod wedi marw dridiau ynghynt, ar Ragfyr 26ain. Yn y grynodeb ar ddiwedd yr adroddiad roedd y patholegydd yn dod i benderfyniad fod Stanley Ingram wedi lladd ei hun, o bosib oherwydd iselder ar ôl colli ei wraig yn gynharach yn y flwyddyn.

Manylion marwolaeth Caradog Griffiths sydd yn yr ail adroddiad. Fe’i cafwyd yn farw yn ei wely ar Ragfyr 28ain 1972 gan ei fam, oedd wedi galw heibio am iddo fethu ateb ei ffôn ers deuddydd. Roedd Caradog yn ddyn ifanc 23 mlwydd oed a oedd yn byw ar ei ben ei hun yn Llanbadarn, ac yn ôl adroddiad y patholegydd roedd yntau hefyd wedi cymryd gorddos (er nad oes sôn beth yn benodol a gymerwyd). Mae nodyn ychwanegol yn y ffeil yn dweud fod y teulu, gan gynnwys ei efaill Cai, wedi gwrthwynebu canlyniad y patholegydd o hunanladdiad, ar y sail na fyddai wedi gwneud y fath beth oherwydd ei gred grefyddol. Fe wrthododd y crwner yr apêl gan dynnu sylw at y dystiolaeth oedd wrth law.

Mae’r adroddiad olaf yn cynnwys manylion marwolaeth Carol Eleri Pryce, 38, a fu farw ar ôl neidio o ffenest ei fflat ar y Prom yn Aberystwyth ar Ragfyr 26ain 1976. Roedd wedi gwahanu oddi wrth ei chariad, George Allen, ychydig amser ynghynt. Gadawodd nodyn hir yn ymddiheuro i’w mam a’i hefaill Cerys, gan gloi gyda’r frawddeg, ‘Dwi’n gobeithio y byddwch chi’n teimlo trugaredd yn eich calonnau ac yn maddai i fi.’ Eto, penderfynodd y patholegydd mai achos y farwolaeth oedd hunanladdiad, gan nodi’r trafferthion yn ei bywyd personol fel rheswm posib.

Ar ôl rhyw ugain munud o ddarllen ac ail-ddarllen dwi’n cau’r clawr ar y trydydd adroddiad ac yn troi i wynebu Taid, sy’n syllu ar y sgrin deledu fel petai’n dilyn y ffilm er fod y sŵn wedi ei ddiffodd o hyd.

“Wel?” mae’n gofyn, heb edrych arna i.

“Wel …” dwi’n dechrau, gan geisio pwyso a mesur fy ngeiriau. “Fe alla i weld fod yna gysylltiadau o ryw fath, ond mae yna lawer o wahaniaethau hefyd.”

“Fel beth?” mae Taid yn gofyn.

“Wel, am un peth mae Stanley Ingram a Caradog Griffiths yn marw o orddos, tra bod Carol Pryce yn neidio o’i ffenest.”

Mae Taid yn estyn am y bocs Quality Street eto.

“Falle fod Carol wedi gwrthod cymryd y tabledi. Neu falle fod Van Baas ‘di colli ‘i dymer gyda hi,” mae’n ateb wrth dynnu’r papur oddi ar ddarn o siocled. “Beth arall?”

Dwi’n ochneidio’n dawel.

“Wel, fe adawodd Stanley Ingram a Carol Pryce nodyn, ond does dim sôn am un yn achos Caradog Griffiths. Ac ydyn, mae’r ddau nodyn yn cam-sillafu ‘maddeuwch’ a ‘maddau’, ond dydy hynny ddim yn arbennig o anarferol.”

“Ti ‘di gweld y camsillafiad – da iawn ti. Ac rwyt ti’n iawn, wnaethon ni ddim dod o hyd i nodyn gan Caradog Griffiths, ond cofia taw ei fam dda’th o hyd i’r corff. Mi oedden nhw’n deulu crefyddol tu hwnt, yn meddwl fod hunanladdiad yn bechod a fyddai’n dod â gwarth ar y teulu, a phob math o nonsens fel’na. Pwy all ddweud nad oedd y fam wedi mynd â’r nodyn pan dda’th hi o hyd i Caradog?”

Yn amlwg does dim modd o berswadio Taid bod y cysylltiadau yma yn wan, os ydyn nhw’n bodoli o gwbl.

“Iawn, OK,” dwi’n dweud. “Ond os ydyn ni’n cymryd am y tro fod yna gysylltiad fan hyn, pam ydych chi mor siŵr taw Marc Van Baas oedd yn gyfrifol? Onibai am y ffaith ei fod e’n digwydd bod yn Aberystwyth ar y pryd.”

O’r diwedd mae Taid yn troi ei lygaid oddi ar y teledu ac yn fy wynebu i.

“Achos fe wnes i gwrdd â’r diawl y dydd y lladdodd e Carol Pryce,” meddai.


Mae ail rhan Nadolig Taliesin ar gael i’w ddarllen fan hyn
Ydych chi’n mwynhau Nadolig Taliesin?

Fe allwch chi ddarllen mwy am Ditectif Taliesin MacLeavy y Nadolig yma yn ei ddwy nofel, Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial – ar gael ar wefannau Y Lolfa, Gwales ac yn eich siop lyfrau leol.

Ar Drywydd Llofrudd (2018)
Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae’n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy’n boblogaidd tu hwnt ar hyn o bryd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd.
Mwy o wybodaeth…
Ar Lwybr Dial (2020)

Llygad am lygad, a dant am ddant? Ydy pobol sydd wedi tramgwyddo yn haeddu cael eu cosbi? Mae yna un llofrudd sy’n credu hynny ac mae yna gyrff yn cael eu canfod mewn amgylchiadau rhyfedd a gwaedlyd. A all Taliesin MacLeavy ei ddal cyn i fwy o bobol farw?
Mwy o wybodaeth…



“Hollol wych. Nes i fethu roi o lawr! A diweddglo OMB o annisgwyl… Bravo Alun Davies, mwy plis!”Manon Steffan Ros

“Nofel sy’ gwerth colli cwsg drosti”Richard Harrington

“Wedi mwynhau hwn! Nofel dditectif ddifyr wedi’i gosod yn Aber, Llanelli a Llanbed. Gobeithio darllen mwy am Taliesin – chwip o enw i dditectif”Bethan Gwanas

“Llais newydd hyderus ym myd sgrifennu ditectif Cymraeg”Jon Gower

“Newydd orffan darllen @trywyddllofrudd . Gwych. Un o’r nofela ditectif gora i mi ei darllen yn Gymraeg ers sbel. ”Emyr Gruffudd

“Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dwi’n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf. ”Tweli Griffiths